Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch ihttp://www.openoffice.org/welcome/readme.html
Annwyl Ddefnyddiwr
Mae'r ffeil yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynghylch y rhaglen hon. Darllenwch y wybodaeth yn ofalus iawn cyn cychwyn gweithio.
Hoffai cymuned OpenOffice.org, sy'n gyfrifol am ddatblygiad y cynnyrch hwn eich gwahodd i gymryd rhan fel aelod cymunedol. Fel defnyddiwr newydd, ewch i safle OpenOffice.org am wybodaeth defnyddiwr defnyddiol yn
http://www.openoffice.org/about_us/introduction.html
Darllenwch hefyd yr adrannau isod ynglŷn ag ymuno â phroject OpenOffice.org
Anghenion y System:
Mae anawsterau cychwyn OpenOffice.org (e.e. rhaglen yn sefyll) yn ogystal â phroblemau gyda'r dangosydd yn aml yn cael eu hachosi gan yrrwr y cerdyn graffigol. Os yw'r anawsterau hyn yn digwydd, diweddarwch yrrwr eich cerdyn graffig neu defnyddiwch y gyrrwr ddaw gyda'ch system weithredu. Mae modd datrys anawsterau dangos gwrthrychau 3D drwy anablu dewis "Defnyddiwch OpenGL" o dan 'Offer - Dewis - Golwg - Golwg 3D'.
Mae modd gosod OpenOffice.org 2.3 ochr yn ochr â'r fersiwn hŷn o OpenOffice.org. Os fyddwch yn penderfynu dadosod y fersiwn hyn yn ddiweddarach, rhaid i chi alw rhaglen osod y fersiwn diweddaraf a dewis 'Trwsio'. Bydd hyn yn sicrhau fod y fersiwn newydd wedi ei gofrestru'n iawn ar eich system.
Sylwch na fydd copïo a gludo drwy'r clipfwrdd yn gweithio yn fformat OpenOffice.org rhwng OpenOffice.org 1.0 ac OpenOffice 1.1. Os yw hynny'n digwydd,dewiswch 'Golygu - Gludo Arbennig' a dewis fformat arwahân i OpenOffice.org neu agor y ddogfen yn OpenOffice 1.1 yn uniongyrchol.
Gwnewch yn siŵr od gennych ddigon o gof rhydd yng nghyfeiriadur dros dro eich system a bod hawliau darllen, ysgrifennu a rhedeg wedi eu rhoi. Caewch bob rhaglen arall cyn cychwyn gosod.
Os ydych yn profi anawsterau cychwyn OpenOffice.org (yn bennaf wrth ddefnyddio Gnome) 'dadsetiwch' amrywiolyn amgylchedd SESSION MANAGER o fewn y gragen rydych yn ei defnyddio i gychwyn OpenOffice.org. Mae modd gwneud hyn wrth ychwanegu'r linell "unset SESSION_MANAGER" i ddechrau'r sgript cragen soffice sydd i'w gael yng nghyfeiriadur "[office folder]/program"
Yn OpenOffice.org gallwch newid y ffontiau sy'n cael eu defnyddio ar y sgrin ac wrth argraffu drwy ei amnewid â ffont arall sydd ar eich system. Mae modd gwneud hyn drwy ddefnyddio'r swyddogaeth newid ffontiau. Dewiswch 'Offer - Dewisiadau - OpenOffice.org - Ffontiau' i gaen mynediad i dabl amnewid ffontiau.
I newid ffont rhyngwyneb defnyddiwr OpenOffice.org, rhaid amnewid y ffont rhagosodedig "Andale Sans UI" gyda ffont arall a marcio'r gosodiad "bob tro" ar gyfer y newid hwn.
Cyfeiriwch at Gymorth OpenOffice.org am esboniad manwl o'r deialog.
Dim ond bysellau (cyfuniad bysellau) nad ydynt yn cael eu defnyddio gan y system weithredu mae modd eu defnyddio yn OpenOffice.org. Os nad yw cyfuniad bysellau'n gweithio fel y disgrifir yn Cymorth OpenOffice.org, gwiriwch fod y llwybr byr yn cael ei ddefnyddio eisoes gan y system. I gywiro'r gwrthdaro, mae modd newid y bysellau neilltuwyd gan eich system weithredu. Fel arall, mae modd newid bron unrhyw un o fysellau neilltuwyd gan OpenOffice.org. Am ragor o wybodaeth ar y pwnc, ewch i Cymorth OpenOffice.org neu ddogfennaeth Cymorth eich system weithredu.
Yn y gosodiad rhagosodedig, mae cloi ffeiliau wedi ei droi ymlaen yn OpenOffice.org. I'w atal, rhaid gosod yr amrywiolion amgylcheddol priodol SAL_ENABLE_FILE_LOCKING=0 ac allforio SAL_ENABLE_FILE_LOCKING. Mae'r confodion hyn wedi eu galluogi yn ffeil sgript soffice.
Rhybudd: Mae'r nodwedd cloi ffeiliau yn medru achosi anawsterau gyda Solaris 2.5.1 a 2.7 mewn cysylltiad â Linux NFS 2.0. Os yw eich system yn meddu'r paramedrau hyn, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn peidio defnyddio cloi ffeiliau. Fel arall, bydd OpenOffice.org yn atal wrth i chi geisio agor ffeil o gyfeiriadur gosodedig NFS ar gyfrifiadur Linux.
Darnau Hawlfraint 1998, 1999 James Clark. Darnau Hawlfraint 1996, 1998 Netscape Communications Corporation.
Byddai Cymuned OpenOffice.org yn elwa'n fawr o'ch ymwneud gweithredol yn natblygiad y project cod agored pwysig hwn.
Fel defnyddiwr, rydych eisoes yn rhan werthfawr o ddatblygiad y pecyn a hoffwn eich annog yn gryf i gymryd mwy o ran gyda golwg ar fod yn gyfranogwr tymor hir i'r gymuned. Ymunwch a darllenwch dudalennau defnyddwyr yn:http://www.openoffice.org
Cymrwch ychydig o amser i lanw'r broses Cofrestru Cynnyrch byr wrth i chi osod y feddalwedd. Er bod cofrestru'n ddewisol, rydym yn eich annog i gofrestru gan fod y wybodaeth yn galluogi'r Gymuned i greu meddalwedd gwell ac ateb anghenion y defnyddiwr yn uniongyrchol. Drwy ein Polisi Preifatrwydd, mae Cymuned OpenOffice.org yn cymryd pob gofal i ddiogelu eich data preifat Os aethoch heibio i'r cofrestru wrth osod y feddalwedd, mae modd dychwelyd a chofrestru ar unrhyw adeg.http://www.openoffice.org/welcome/registration20.html
Mae yna hefyd Arolwg Defnyddiwr ar-lein hoffwn eich annog i'w lanw. Mae canlyniadau'r Arolwg Defnyddiwr yn cynorthwyo OpenOffice.org i symud ynghynt wrth osod safonau newydd ar gyfer creu'r genhedlaeth nesaf o raglenni swyddfa. Drwy ein Polisi Preifatrwydd, mae OpenOffice.org yn cymryd pob gofal i ddiogelu eich data preifat.
Mae Safle Gwe OpenOffice.org yn cynnal IssueZilla, sef modd i gofnodi, tracio a datrys gwallau a materion o bryder. Rydym yn annog pob defnyddiwr i deimlo croeso i adrodd ar wallau all godi ym mhob platfform. Mae adrodd effeithiol ar wallau'n un o gyfraniadau pwysicaf y gall y Gymuned Defnyddwyr ei wneud i ddatblygiad a gwellhad y rhaglenni.
Dyma rai o restrau e-bostio'r Project gallwch danysgrifio iddynt ynhttp://www.openoffice.org/mail_list.html
Mae modd i chi wneud cyfraniad sylweddol i'r project cod agored pwysig hwn hyd yn oed os mai dim ond profiad bychan o gynllunio meddalwedd neu godio sydd gennych. Ie, chi
Ynhttp://projects.openoffice.org/index.htmlCewch ddod o hyd i brojectau yn ymestyn o Leoleiddio, Portio a Grwpwar i brojectau codio sylfaenol iawn. Os nad ydych yn ddatblygwr, ewch at y Project Dogfennaeth neu Farchnata. Mae'r Project Marchnata OpenOffice.org yn defnyddio dulliau guerilla a thechnegau marchnata traddodiadol i farchnata cynnyrch cod agored, ac rydym yn ei wneud ar draws ffiniau ieithoedd a diwylliannau, felly gallwch helpu drwy son am y gwaith a dweud wrth eich ffrindiau am y rhaglen.
Gallwch helpu drwy ymuno a'r Rhwydwaith Marchnata Cyfathrebu a Gwybodaeth yma:http://marketing.openoffice.org/contacts.html lle gallwch gynnig pwynt cyfathrebu gyda'r wasg, cyfryngau, asiantaethau'r llywodraeth, ymgynghorwyr, ysgolion, Grwpiau Defnyddwyr Linux a datblygwyr yn eich gwlad a'ch cymuned leol.
Am gymorth gyda phecyn OpenOffice.org 2.0, darllenwch yr archif i ganfod cwestiynau wedi eu hateb ar restr e-bostio 'users@openoffice.org' ynhttp://www.openoffice.org/mail_list.html. Neu mae modd anfon eich cwestiynau at users@openoffice.org. Cofiwch danysgrifio i'r rhestr i gael ymateb drwy'r e-bost.
Gwiriwch yr adran FAQ ynhttp://user-faq.openoffice.org/.
Y ffordd orau i gyfrannu yw drwy danysgrifio i un neu fwy o'r rhestr e-bostio am gyfnod, ac yn raddol ddefnyddio'r archifau e-bost i ddod i adnabod yr amryw o destunau sydd wedi eu trin ers i god ffynhonnell OpenOffice.org gael ei ryddhau nôl yn Hydref 2000. Pan rydych yn barod, dim ond anfon e-bost o gyflwyniad ac ymuno! Os ydych yn gyfarwydd â Phrojectau Cod Agored, ewch i'n rhestrau To-do a gweld os oes yna rywbeth hoffech chi gynnig helpu gydag ef.http://development.openoffice.org/todo.html.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau gweithio gyda OpenOffice.org 2.3 ac y gwnewch ymuno gyda ni ar-lein.
Cymuned OpenOffice.org